|
|
||
Pwy oedd Dewi Sant?Dysgwch fwy am ein nawddsant a'r rheswm am ddathlu 1 Mawrth
Rydym yn gwybod ei fod wedi cael ei eni yn Henfynyw yng Ngheredigion rywbryd rhwng 462 a 512, a chredir ei fod wedi astudio dan Illtud Sant yn Llanilltud Fawr. Daeth yn ffigur blaenllaw yn yr eglwys Geltaidd, a sefydlodd fynachlog ym Mynyw, Sir Benfro, a adwaenir erbyn hyn fel Tyddewi. Ei weithred enwocaf yw gwyrth Llanddewi Brefi a adroddwyd gan Rhygyfarch, mynach a fu'n ysgrifennu yn yr unfed ganrif ar ddeg. Dywedwyd bod Dewi Sant wedi achosi i'r tir godi er mwyn i'r tyrfaoedd enfawr glywed ei eiriau. Gwelwyd colomen wen yn disgyn ar ei ysgwydd. Yn ôl Rhygyfarch, iachâodd y Dewi ifanc ddallineb ei diwtor Sant Paulinws, cyn mynd ati i efengylu ymysg y Brythoniaid. Mae Rhygyfarch hefyd yn honni bod Dewi wedi sefydlu mynachlogydd yng Nghaerfaddon, Llanllieni ac Ynys Wydrin, ac ymweld â Jerwsalem, lle cafodd ei urddo'n esgob. Credir bod Dewi Sant wedi marw ar ddydd Mawrth, 1 Mawrth 589 yn Nhyddewi, Sir Benfro. Rhai o'i eiriau olaf oedd "gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf", sydd erbyn hyn yn ymadrodd adnabyddus iawn yn Gymraeg. Trwyddedir y ffeil hon o dan drwydded Creative Commons Attribution ShareAlike 2.5
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Rhagfyr 23 2009